Carol Yr Wyl 2016


Eleni fe wnaeth y côr cystadlu yng nghystadleuaeth Carol yr Ŵyl a osodwyd gan S4C / Prynhawn Da. Y dasg oedd cyfansoddi alaw ac ysgrifennu geiriau addas ar gyfer carol Nadoligaidd.
Fe ysgrifennodd Mrs Catrin Llywelyn y geiriau ac fe gyfansoddodd Mrs Catrin James yr alaw a chyfeiliant. Buom yn ffodus iawn i gyrraedd y 10 ysgol ddiwethaf yng Nghymru gyfan ac o ganlyniad daeth criw ysgol ddiwethaf allan ar Dachwedd 15fed i ffilmio’r côr yn canu.
Aeth y darlleniad ar y teledu ar Ragfyr 12fed. Roedd yn brofiad bythgofiadwy ac fe wnaeth bob un o’r plant a’r athrawon mwynhau. Llongyfarchiadau gwresog iddyn nhw ar ei llwyddiant.