Mae pob un ohonom fel mesen fach
Yn eiddgar i fynd i‘r pridd o’r sach
A’n haddysg yw yr haul a’r glaw
I’n helpu i dyfu drwy bopeth ddaw
Wrth inni godi’n penau o’r pridd
Daeth iaith i’n dail fel golau dydd
Mi fu’r blynyddoedd yn llawn o hud
A’n gwreiddiau’n ddwfn wrth wynebu’r byd
Tyfwn yn gadarn a ninnau’n llawn mes
A chadernid ein boncyff yn rhoi i ni les
Mae hi’n bryd i estyn ein canghennau yn awr
A phob un ohonom yn dderwen fawr