ELSA

Mrs Nicola Griffiths yw’r ELSA sy’n cefnogi disgyblion Ysgol Penygroes.

E – Emotional

L – Literacy

S – Support

A – Assistant

Beth yw ELSA?

Mae ELSA (Cynorthwyydd Cymorth Llythrennedd Emosiynol) yn gynorthwyydd addysgu  sydd â chyfoeth o brofiad o weithio gyda phlant i gefnogi eu hanghenion emosiynol. Mae ELSAs yn cael eu hyfforddi a’u goruchwylio’n rheolaidd gan y seicolegwyr addysgol yr Awdurdod Lleol. Mae ELSA yn berson cynnes a gofalgar sydd am helpu eich plentyn i deimlo’n hapus yn yr ysgol ac i gyrraedd ei botensial yn addysgol. Eu nod yw cael gwared ar y rhwystrau i ddysgu a chael plant hapus yn yr ysgol ac yn y cartref.