Dyma gyfnod cyffrous i bobl ifanc Cymru. Mae Cwricwlwm newydd i Gymru ar y gweill fydd yn ennyn brwdfrydedd dysgwyr o 3 i 16, gan roi iddynt y sylfaen sydd ei angen i lwyddo mewn byd sy’n newid.
Blog Cwricwlwm Newydd i Gymru
DOGFENNAU’N GYSYLLTIEDIG Â’R CWRICWLWM I GYMRU 2022
Amlieithrwydd ym Mhenygroes
Mae dysgu am hunaniaeth a diwylliant drwy ieithoedd yn ein paratoi i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd. Mae dysgu a defnyddio ieithoedd yn ein cysylltu â phobl, lleoedd a chymunedau. Mae’r Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu wedi’i gynllunio i sicrhau bod dysgwyr, fel dinasyddion Cymru ddwyieithog a byd amlieithog yn gallu defnyddio’r Gymraeg, Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol. Drwy godi ymwybyddiaeth o amrywiaeth o ieithoedd o oedran cynnar, bydd dysgwyr yn gallu adnabod nodweddion tebyg rhwng ieithoedd a gwerthfawrogi’r gwahaniaethau rhyngddynt. Cânt gymorth i feithrin dealltwriaeth o darddiad, esblygiad a nodweddion y Gymraeg, Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol a fydd yn rhoi set o sgiliau iddynt sy’n mynd y tu hwnt i sgiliau Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu ac yn cynnwys nodweddion megis creadigrwydd, gwydnwch, y gallu i gasglu ac empathi. Mae’r cwricwlwm newydd yn caniatau y cyfle i wella pob iaith yn cynnwys Cymraeg, Saesneg a ieithoedd rhyngwladol a ieithoedd rhyngwladol, wrth ystyried cysylltiadau rhwng ieithoedd.