Cyngor Ysgol

CYNGOR YSGOL

PWY YDYM NI A BETH RYDYM YN EI WNEUD? 

Mae’r cyngor ysgol yn grŵp cynrychiadol o ddisgyblion a etholir gan eu cyfoedion i drafod materion ynglŷn â’u haddysg a thrafod materion o bwys gydag uwch reolwyr a llywodraethwyr yr ysgol.    

Mae’r cyngor yn medru dweud eu dweud ynglŷn â phenderfyniadau, a mae’n chwarae rhan weithredol yn y gwaith o wneud yr ysgol yn lle gwell.  Y rhain yw prif swyddogaethau cyngor ysgol.

  • Bod yn llais i’w cyfoedion.
  • Sicrhau bod y disgyblion yn chwarae rhan hanfodol mewn gwella’r ysgol er mwyn caniatáu iddynt fod â pherchnogaeth dros eu man dysgu.
  • Cynnig awgrymiadau ar gyfer gwella’r ysgol.
  • Trefnu digwyddiadau hel arian ar gyfer y disgyblion
  • Cynrychioli’r ysgol yn gyhoeddus os oes angen.
  • Cyfarfod â llywodraethwyr neu unrhyw randdeiliaid eraill i drafod materion penodol.
  • Bod yn fodelau rôl da i’w cyfoedion.