Datganiad Prydau Ysgol am Ddim

GRANT AMDDIFADEDD DISGYBLION

Dyrennir y Grant Amddifadedd Disgyblion i ysgolion â disgyblion sy’n dod o deuluoedd incwm isel ac y gwyddys eu bod ar hyn o bryd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (e-FSM) a disgyblion sydd wedi derbyn gofal yn barhaus am fwy na chwe mis (LAC). 

Disgwylir i ysgolion ddefnyddio’r cyllid hwn i’r eithaf i gyflwyno strategaethau cynaliadwy fydd yn arwain yn gyflym at newidiadau i ddysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol  am ddim.

Fel ysgol rydym wedi cytuno ar y tri cham a ganlyn:

1. nodi’r grŵp targed o ddisgyblion, ei nodweddion a’i anghenion

2.  cynllunio ymyraethau sy’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau

3. monitro a gwerthuso effaith adnoddau a datblygiadau proffesiynol. 

Yn 2023-24 rhoddwyd i Ysgol Penygroes ddyraniad Grant Amddifadedd disgyblion o £19,550.

Yn Ysgol Penygroes mae gennym gynllun, sydd wedi’i gytuno a’i fonitro gan Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin, i hyrwyddo cynnydd a chael gwared ar rwystrau i ddysgu i fyfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer y cyllid hwn.

Rydym wedi defnyddio’r cyllid sydd ar gael i:

  • darparu lefelau uwch o staffio yn y dosbarth fel gellir cefnogi digyblion Cinio Ysgol am ddim yn effeithiol.
  • cynnig ymyrraeth llythrennedd a rhifedd llwyddiannus i godi safonau’r dysgwyr sy’n derbyn cinio ysgol am ddim.
  • Darparu cefnogaeth lles effeithiol yn fewnol ac allanol wrth gydweithio gydag asiantaethau allanol i gefnogi dysgwyr sy’n derbyn cinio ysgol am ddim yn effeithiol.