Information

Datganiad o Genhadaeth

ARWYDDAIR yr ysgol yw

Tyfu drwy’r iaith, dysgwn ar y daith”

Cyrraedd yr ysgol yn hadau pryderus

magwn ni wreiddiau i dyfu’n hyderus

anelwn i fyny, pob un brigyn bychan,

a’n boncyff yn gryf yn wyneb y daran.

Mae dail yn egino a dail yn syrthio

ond o dymor i dymor cawn ymfalchïo

fod gennym iaith sy’n bythol flodeuo

a’n hysgol yn gosod y sylfaen i lwyddo.

Dechreuodd hanes Penygroes o’r ddaear wrth waith Pwll Glo’r Emlyn. Yn dilyn yr hanes pwysig yma, mae’r Criw Cymraeg wedi penderfynu creu enwau i bob dosbarth ar draws yr ysgol. Mae’r enwau wedi eu creu yn dilyn taith plentyn trwy’r ysgol sy’n dechrau gyda’r gwreiddiau (Gwreiddiau yw dechrau pob coeden) ac yna wrth symud trwy’r ysgol, mae’r disgyblion yn tyfu wrth ddysgu nes eu bod nhw’n cyrraedd dosbarth Derwen – (Coeden fwyaf yr ysgol). Mae’r Bardd – Aneurin Karadog wedi bod yn rhan o weithdai iaith ymhob dosbarth i greu rap / can / cerdd i bob dosbarth sy’n cynnwys yr enw newydd.

Dysgwn am bwrpas yr enwau newydd yma wrth gofio am yr ardal leol / hanes a chynefin Penygroes

Dosbarth / Class        Enw / Name              Uchder / Height

Derbyn / Reception    Collen / Hazel                   10M

Blwyddyn / Year 1     Celynnen / Holly            15M

Blwyddyn / Year 2     Helygen / Willow            25M

Blwyddyn / Year 3     Bedwen / Birch                 30M

Blwyddyn / Year 4     Onnen / Ash                       35M

Blwyddyn / Year 5     Ffawydden / Beech         38M

Blwyddyn / Year 6     Derwen / Oak                    40M